top of page
Search
sam29806

Beth yw Cynllun Cynefin a sut allwch chi gymryd rhan?

Mae Ardal Bae Colwyn yn paratoi “Cynllun Cynefin”, ond beth yw Cynllun Cynefin a sut allwch chi gymryd rhan?


Felly, beth yw Cynllun Cynefin? Cynllun Cynefin yw’ch cyfle chi i ddweud eich dweud, trwy helpu i gynhyrchu dogfen, sydd wedi ei harwain gan y gymuned, ac a all ddylanwadu ar benderfyniadau cynllunio. Os bydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn ei fabwysiadu, gall Cynllun Cynefin ffurfio ‘Canllaw Cynllunio Atodol’. Golyga hyn bydd yn rhaid i holl benderfyniadau cynllunio yn y dyfodol ym Mae Colwyn ystyried y Cynllun Cynefin, a’r blaenoriaethau a osodwyd gan bobl leol.


Mae hyn yn ymwneud â sicrhau bod gan Ardal Bae Colwyn yr hyn sydd ei hangen arni i ffynnu - nawr ac yn y dyfodol - yn cynnwys tai, trafnidiaeth, mannau cyhoeddus, gwasanaethau lleol a llawer iawn mwy.


Dyma’ch cyfle chi i nodi’r hyn sy’n gweithio yn eich cymuned, yr hyn nad sy’n gweithio, yr hyn a ddylid newid a’r hyn a ddylid ei warchod. Yn fyr, Cynllun Cynefin yw eich cyfle chi i ddweud eich dweud a llunio dyfodol Ardal Bae Colwyn.


Sut allwch chi gymryd rhan?

Mae hon yn ymdrech i’r gymuned gyfan felly mae’ch ymrwymiad chi’n hanfodol!


Dros y misoedd i ddod bydd digon o gyfleoedd i gymryd rhan ac mae sut a phryd rydych yn dewis gwneud hyn yn eich dwylo chi.

- Sesiynau ‘galw i mewn’ yn Hen Golwyn, Llandrillo-yn-Rhos, Bryn-y-Maen a chanol tref Bae Colwyn.

- Holiadur ar-lein

- Gweithgareddau rhyngweithiol ar-lein

- Gweithdai yn yr ysgolion lleol

- Digwyddiadau i grwpiau ffocws ar-lein

- Cystadleuaeth gel fi bobl ifanc


Cadwch olwg ar y safle yma neu rhowch wybod i ni yr hoffech fod ar ein rhestr bostio i gael y newyddion diweddaraf: https://www.colwynplaceplan.com/get-in-touch




5 views0 comments

Comentarios


bottom of page